Mae Newsnight Cymru yn ymgyrch newydd i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd yng Nghymru. Rydyn ni'n galw ar y BBC i sefydlu Newsnight Wales bob nos fel optiad allan o Newsnight Llundain ar BBC2, yn ogystal â darparu rhaglen Newsnight Cymru yn Gymraeg ar S4C.
Llofnodwch y ddeiseb a lledaenwch y neges! Cysylltwch â ni os hoffech fod yn rhan o'r ymgyrch neu gyfrannu at y blog.