Y newyddion diweddaraf o'r ymgyrch...
31 Mawrth 2014
Carwyn
Jones yn awgrymu’r angen am Newsnight i Gymru
Mae ymgyrch Newsnight Cymru wedi croesawu datganiad Prif Weinidog Cymru heddiw ei fod yn sicr bod achos i Gymru gael fersiwn ei hun o Newsnight yn ddrych i Newsnight Scotland sydd eisoes ar gael ar BBC2. Gwnaeth Carwyn Jones y datganiad o gefnogaeth yn nigwyddiad News Academy yng Nghaerdydd heddiw. Yn dilyn cefnogaeth y Prif Weinidog, mae’r ymgyrch bellach wedi derbyn cefnogaeth o gyfeiriad pedair prif blaid wleidyddol Cymru.
Yn ôl Siân Beynon Powell o Ymgyrch Newsnight Cymru:
“Rydym yn croesawu’r gefnogaeth a roddodd y Prif Weinidog i ymgyrch Newsnight Cymru heddiw. Mae’r datganiad yn dangos fod consensws ymhlith y pleidiau fod angen am raglen o’r fath ar Gymru er mwyn rhoi cyfle i etholwyr Cymru graffu ar yr holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud am Gymru.”
Nodiadau:
Mae Newsnight Scotland wedi bodoli yn yr Alban ers cychwyn datganoli, sef slot ugain munud o nos Lun i nos Iau yn trafod gwleidyddiaeth a materion cyfoes sy’n berthnasol i’r Alban. Mae ymgyrch Newsnight Cymru yn galw ar y BBC i sefydlu Newsnight Wales yn ddrych i Newsnight Scotland ar BBC2, yn ogystal â darparu rhaglen Newsnight Cymru yn Gymraeg ar S4C.

22 Ionawr 2014
Newsnight Cymru: Ymgyrch Newydd i Fynd i’r Afael â’r Diffyg Democrataidd
Mae ymgyrch newydd wedi cychwyn er mwyn lobïo’r BBC i gael rhaglenni Newsnight penodol i Gymru.
Mae ymgyrch Newsnight Cymru wedi cael ei lansio heddiw (22.1.14) gan ymgyrchwyr sy’n galw ar y BBC i sefydlu Newsnight Wales fel drych ar gyfer Newsnight Scotland ar BBC2, yn ogystal â darparu rhaglen Newsnight Cymru yn Gymraeg ar S4C, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r ymgyrch wedi nodi y bydd yn lobïo i gael cynrychiolaeth fwy teg i wleidyddiaeth Cymru ar y BBC, ond y bydd hefyd yn tynnu sylw at y diffyg democrataidd yng Nghymru yn fwy cyffredinol, yn ogystal â’r ffaith bod diffygion amlwg o ran craffu ar benderfyniadau gwleidyddol sy’n cael eu gwneud am Gymru, a hynny bymtheg mlynedd ers cychwyn datganoli.
Heddiw mae ymgyrchwyr wedi lansio www.newsnightcymru.com yn swyddogol, gan wahodd pobl ledled Cymru a’r tu hwnt i gyfrannu blogiadau a llofnodi deiseb yn galw ar y BBC i sefydlu rhaglenni Newsnight Cymru a Newsnight Wales. Yn ogystal â lansio presenoldeb ar-lein fel man cychwyn, bydd y grŵp yn mynd ati i ddylanwadu ar benderfynwyr allweddol yn ystod y flwyddyn nesaf.
Meddai llefarydd ar ran yr ymgyrch, Mabon ap Gwynfor:
“Mae Cymru’n mynd drwy gyfnod o newid gwleidyddol; rydyn ni wedi cael pwerau deddfu ar ôl refferendwm 2011, ac mae Mesur Drafft Cymru wedi ei gyhoeddi yn San Steffan a allai roi pwerau amrywio trethu a benthyca i Gymru. Bydd y newidiadau yma i gyd yn effeithio ar ein bywydau bob dydd a’r ffyrdd rydyn ni’n byw ein bywydau fel dinasyddion Cymru.
“Mae risg y bydd y newidiadau yma yn digwydd heb i bobl sylweddoli. Mae wedi dod i’r amlwg bod ‘diffyg democrataidd’ yng Nghymru, ac mae bwlch amlwg rhwng gwleidyddiaeth a’r bobl. Bymtheg mlynedd ers cychwyn datganoli, rydyn ni’n credu ei bod yn bryd cael rhaglenni gwleidyddol i Gymru ar lefel debyg i’r hyn sydd yn yr Alban.
“Dydy rhaglenni fel Newsnight ddim o reidrwydd wedi’u hanelu at y cyhoedd i gyd, ond maen nhw’n rhan ganolog o’r drafodaeth wleidyddol yn yr Alban ac yn Lloegr. Ar hyn o bryd, os oes rhywun yng Nghymru am ddysgu rhywbeth am wleidyddiaeth eu gwlad, dim ond llond dwrn o raglenni teledu sydd ar gael, ac mae’n ddigon anodd cael gwybod beth sy’n digwydd. Mae ansawdd y rhaglenni’n galonogol, ond mae angen mwy o amrywiaeth. Mae’n bryd adeiladu consensws dros gael Newsnight i Gymru yn ein dwy iaith genedlaethol.”
Ychwanegodd Sian Beynon Powell:
“Mae Newsnight yn frand mae pobl yn ymddiried ynddo, ac yn aml iawn mae’r materion sy’n cael eu trafod arno yn rhaeadru i lawr i’r cyhoedd drwy’r papurau ac ar-lein. Nod yr ymgyrch yma ydy sicrhau bod brand poblogaidd a dibynadwy yn rhoi sylw iawn i’r dimensiwn Cymreig. Bydd gwleidyddiaeth Cymru yn elwa’n fawr o gael mwy o graffu, wrth i’r gwleidyddion ddod yn fwy atebol a haws eu cyrraedd.
“Mae’r arbenigedd a’r ddawn ganddon ni’n barod i ddarparu’r rhaglenni yma. Mae enw arbennig o dda i ddarlledu yng Nghymru. Rydyn ni’n gobeithio hefyd y bydd gwefan Newsnight Cymru yn rhoi cychwyn ar drafodaeth am yr angen am raglen debyg i Question Time i Gymru yn Saesneg, i gyd-fynd â Pawb a’i Farn. Ddylen ni ddim cuddio gwleidyddiaeth Cymru yn rhywle y tu hwnt i afael pobl gyffredin."