Mae'r economi yn gwella, medden nhw. Wir?
Mae'r Gwasanaeth Iechyd mewn cyflwr truenus.
Mae'r Gwasanaethau Gofal yn fy nychryn.
Mae cyflwr Addysg yn ôl ffon fesur Pisa yn drychinebus.
Mae’r cynghorau yn y niwl yn poeni am eu dyfodol.
Mae Rygbi Cymru – wel – am shambls.
A'n trysor ni – yr Iaith? Mae iddi le hanfodol ym mhob un o'r meysydd uchod ond peidiwch â chyhoeddi hynny'n rhy uchel, yn enwedig ar raglenni Saesneg.
Nos Fercher Ionawr 22ain. Noson o wylio teledu'r BBC.
Dyma uchafbwynt yr wythnos o ran darlledu gwleidyddol yng Nghymru gyda rhaglenni wythnosol BBC Cymru ymlaen ar S4C a BBC1.
Wales Today
- Y nifer mwya mewn gwaith ers 22 mlynedd.
- Yr argyfwng yn y sector gofalu.
- Heddwch (byr ei hoedl) yn y byd rygbi.
Newyddion 9
- Diweithdra yn gostwng.
- Peryg i Addysg Gymraeg yn ardal Merthyr.
- Cytundeb o fath yn y byd rygbi.
- Galw am fersiwn Gymreig o Newsnight a rhaglen nosweithiol debyg ar S4C (BBC Cymru yn datgan bod ganddynt eisoes raglenni wythnosol yn trafod gwleidyddiaeth).
Y Sgwrs
- Comisiwn Williams a dyfodol ein cynghorau sir
- Nifer y cyrff cyhoeddus yng Nghymru – 935!
Wales Report
- Argyfwng Gofal Cartre – 94% o ofalwyr heb eu cofrestru. Brawychus.
- Pwerau trethu a sut mae rhoi hwb i'r economi.
- Angen cryfhau'r cyfryngau newyddion medd Llywydd y Cynulliad. Yr angen am fwy o herio ar benderfyniadau'r llywodraeth medd cyflwynydd yr eitem – clywch, clywch! (Ond dim sôn am yr ymgyrch i sefydlu Newsnight Cymru/Wales – siomedig.)
NEWSNIGHT
- Diweithdra yn gostwng ond beth am safon byw gweithwyr? Eitem ag ôl arian arni.
- Trafodaethau heddwch Syria.
- Arglwydd Rennard – pedair menyw yn trafod "sex pests". Diddorol.
- Gwahardd Khat – y ddeilen gyffur ymhlith Somaliaid – eitem yn mynd yn ddwfn o dan y wyneb.
Fel arfer – dim byd o Gymru, er y gellid fod wedi dod at y gymuned Somalaidd gref yng Nghaerdydd. Mae gan yr Alban wrth gwrs ei Newsnight Scotland.
Erbyn hyn fe ddylai gwylwyr BBC Wales fod yn gwybod am bob twll a chornel o Gymru gan fod na gynifer o'u "selebs" wedi ei cherdded, wedi hwylio ei glannau, wedi dringo ei mynyddoedd... Ond faint maen nhw'n wir wybod am y bobl yn y Bae sy'n llywio eu bywydau bob dydd?
Ers blynyddoedd dw i ymhlith carfan fechan o "bobl y cyfryngau" sydd wedi bod yn galw am Newsnight Cymru ar S4C. O leia mae 'da ni'r Cymry Cymraeg gyfle i leisio barn bob hyn a hyn ar "Pawb a'i Farn". Mae Manylu ar Radio Cymru yn gneud jobyn da yn aml iawn. Ond pwrpas gwahanol iawn sy' i'r rhain a'r rhaglenni Newyddion – allan nhw ddim craffu o ddydd i ddydd ar yr hyn sy'n digwydd lawr yn y Bae. Felly mae'r gwleidyddion yn ei chael hi'n hawdd iawn osgoi bod yn atebol am eu penderfyniadau.
Dyw’r mwyafrif llethol o bobl ddim yn defnyddio eu pleidlais yn etholiadau a refferenda'r Cynulliad. Pwy all eu beio? Does 'da llawer yng Nghymru 'run syniad am beth maen nhw'n pleidleisio, oherwydd 'dyn nhw ddim wedi gweld digon o drafod ar weithgareddau'r llywodraeth.
Mae'n rhaid wrth raglen nosweithiol yn holi a herio'r gwleidyddion i godi ymwybyddiaeth i ddechrau. Wedyn fe ddaw'r etholwyr i ddeall pa mor hanfodol bwysig yw'r rhan sy ganddon ni i’w chwarae yn nyfodol ein gwlad.
Petai ond yn enw democratiaeth, mae angen dybryd am Newsnight Wales/Cymru.
Cardi yn byw yng Nghaerdydd ers cyn cof... Yn un o'r rheiny sy â "gradd yn y Gymraeg".
Gwaith – cyfryngi ers y 70au cynnar.
Pethe pwysig – dyfodol Cymru, y genedl, a'r iaith. Gwasanaethau gofal hefyd.
Cryfder – gweld pethe fel y maent.
Gwendid – y duedd i anobeithio.