Yn gynharach yn 2013, roedd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Rosemary Butler AC, yn y newyddion am ddweud ei bod hi’n poeni bod ‘mwyafrif pobl Cymru ddim yn cael eu newyddion o Gymru, maen nhw'n cael eu newyddion o dros y ffin ac felly mae'n tueddu i fod yn canolbwyntio ar Loegr.’[2] Mae’r Llywydd yn llygad ei lle.
Gwan yw’r diwydiant papurau newydd yng Nghymru beth bynnag, ond mae llai a llai o bobl yn darllen y Western Mail, unig bapur cenedlaethol Cymru. Bach iawn o bobl sy’n gweld newyddion Cymreig y BBC neu ITV o gymharu â Sky News neu ‘brif’ raglenni newyddion y BBC. Pa syndod felly nad yw cynifer o Gymry’n adnabod Carwyn?
Nid yw’r cyfryngau Prydeinig yn poeni iot am Gymru, am hynny does dim amheuaeth. Mae’n codi fy ngwrychyn gweld Hywel Griffith druan yn mynd o un lle i’r llall ar draws Cymru fel ‘Wales Correspondent’ er fod gohebwyr gwahanol i faterion gwahanol ar gyfer newyddion sy’n dechrau’n Lloegr.
Os ydyn ni am sicrhau fod pobl Cymru’n ymgysylltu’n fwy â sefydliadau a materion hollbwysig ar gyfer cymdeithas fodern Cymru, rhaid rhoi llwyfan i wleidyddiaeth Cymru ar deledu prif ffrwd. Pa well fodd o wneud hynny, yn y Gymraeg a’r Saesneg, na neilltuo amser bob nos fel rhan o Newsnight i newyddion Cymru, am faterion Cymru, wedi eu lleoli yng Nghymru, yn benodol ar gyfer pobl Cymru?
Os ydyn ni am sicrhau fod modd i bobl Cymru graffu ar y sawl ym Mae Caerdydd y maent wedi eu hethol i wneud penderfyniadau trostyn nhw a thros Gymru, rhaid rhoi llwyfan i wleidyddiaeth Cymru ar deledu prif ffrwd.
Os ydyn ni am ddechrau ailadeiladu’r diwydiant newyddion yng Nghymru, a sicrhau fod pobl Cymru’n cael – o leiaf – ongl Gymreig ar eu newyddion, rhaid rhoi llwyfan i wleidyddiaeth Cymru ar deledu prif ffrwd.
Mae’n peri cymaint o ofid imi pan fydda i’n siarad â rhywun am ryw fater neu’i gilydd a’r hyn rwy’n ei gael yn ôl yw ‘Carwyn pwy?’ neu ryw sylw tebyg. Mae’n anghredadwy ar un lefel, ond yn hollol ddealladwy ar lefel arall.
Does gan bobl Cymru ddim mynediad go iawn at wleidyddiaeth eu gwlad. Mae Cymru’n dyheu i fod yn wlad aeddfed, fodern, flaengar. Mam fach, os nad oes ’da ni raglen fel Newsnight sy’n canolbwyntio arnom ni’n hunain, wedyn Duw a’n helpo ni!
Mae’n fwy na moethusrwydd. Mae’n fwy nag add-on bach yr hoffem ei gael. Mae’n ofynnol os ydym am fod yn wlad aeddfed, fodern, flaengar.
Dewch inni weithio tuag at greu’r wlad honno. Dewch inni gael Newsnight i Gymru.
[1] http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/carwyn-jones-lower-profile-wales-5316456
[2] http://www.bbc.co.uk/newyddion/22581674
Yn wreiddiol o Gwmgors yn y de-orllewin, mae Cerith Rhys Jones ar fin graddio mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.