Bellach, mae ymgyrchwyr iaith yn Iwerddon yn ymgyrchu i godi’r cyfyngiad hwn. Mae degau o gyfieithwyr a chyfreithwyr Gwyddeleg wedi’u hyfforddi ond nid ydynt wedi’u cyflogi gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad oes gofyn cyfieithu’r holl ddogfennau swyddogol hyn oherwydd y cyfyngiad. Mae’r ymgyrchwyr yn amcangyfrif y byddai bron i 200 o swyddi ychwanegol ar gael yn y Comisiwn Ewropeaidd i siaradwyr Gwyddeleg rhwng rŵan a 2017 pe bai’r cyfyngiad hwn yn cael ei godi. Un o’r amryw ddadleuon y maent yn eu defnyddio i ddadlau dros godi’r cyfyngiad yw’r fantais ehangach a ddeuai i’r wlad o gael cynifer o Wyddelod yn gweithio yn yr Undeb Ewropeaidd oherwydd mae’n bosibl y byddent, unwaith eu bod yn gweithio yno, yn gallu mynd ymlaen i swyddi eraill. Ers iddi ddod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn 1973 byddai nifer yn dadlau nad yw Iwerddon wedi gwneud yn rhy ddrwg o’i haelodaeth er gwaetha’r argyfwng economaidd diweddar, ac mae nifer o’r gweision sifil a aeth i weithio i Ewrop yn y 70au a’r 80au yn agosáu at oed ymddeol bellach mae’n debyg. Maent yn honni y byddai codi’r cyfyngiad ar y dogfennau a gyfieithir yn cynyddu faint o Wyddelod fyddai’n gweithio ym Mrwsel a Strasbourg, a allai, yn y man, ddylanwadu ar gyfeiriad gwaith yr Undeb Ewropeaidd o bosibl.
Yma yng Nghymru mae etholiadau Ewrop yn digwydd ar gefnlen o ddadleuon Prydeinig ynghylch aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd. Mae plaid sy’n ei gwrthwynebu yn gyfan gwbl fel mater o egwyddor yn debygol o wneud yn dda yn yr etholiadau ac mae’n bosibl y bydd refferendwm ynghylch aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn digwydd yn 2017 os bydd llywodraeth Dorïaidd yn dilyn etholiadau cyffredinol 2015. Pe baem yn cael eu clywed, rwy’n cymryd y byddai modd defnyddio’r un dadleuon â’r Gwyddelod ynghylch y manteision posibl a ddeuai i Gymru gyfan pe bai’r Gymraeg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Ond, fel y dywedais i, dydyn ni ddim yn cael clywed y dadleuon hyn ynghylch Cymru oherwydd mai cyd-destun Seisnig neu Brydeinig sydd i gynifer o drafodaethau am faterion cyfoes yn ein cyfryngau.
Dydw i ddim yn arbenigwr ar yr Undeb Ewropeaidd o bell ffordd nac ar fanteision ac anfanteision aelodaeth Cymru a Phrydain ohoni. Gan gydnabod y statws ychwanegol a ddeuai i’r Gymraeg pe bai hi ryw ddiwrnod yn dod yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, dydw i ddim chwaith yn hollol siŵr a fuaswn i eisiau i gannoedd o siaradwyr Cymraeg proffesiynol fudo o Gymru i rodio coridorau Brwsel a Strasbourg yn hytrach na rhodio coridorau grym Cymru! Dwi yn gwybod er hynny, fod angen trafod degau ar ddegau o faterion cyfoes, gan gynnwys aelodaeth Cymru a Phrydain o’r Undeb Ewropeaidd mewn gofod a chyd-destun Cymreig. Dwi yn gwybod hefyd y byddai Newsnight Cymru yn gyfraniad mawr at alluogi hynny.