Fe glywais yn ddiweddar, er enghraifft, bod un awdur Cymraeg wedi derbyn tipyn o feirniadaeth ar Twitter am iddo fynychu gŵyl lenyddol dramor. Bwrdwn y drafodaeth – fel arfer – oedd y ffaith iddo dderbyn nawdd cyhoeddus i fynychu’r ŵyl. Ac mae hon yn hen gŵyn, wrth gwrs. Gyda’r esgid yn gwasgu yn fwy nag erioed, mae nifer yn anfodlon o weld awduron ac artistiaid yn derbyn unrhyw fath o nawdd cyhoeddus i gwblhau eu gwaith neu i ehangu eu gorwelion. Gwastraff pur ydy rhywbeth felly, yn ôl rhai. Ond gyda thrafodaeth fel hon yn digwydd ar-lein, ac yn ddienw, tybed a yw’r drafodaeth hon mor gynhyrchiol ag y gallai fod?
“Jyncet” ydy’r gair dirmygus sy’n cael ei ddefnyddio’n amlach na pheidio. Ond heb ddanfon yr un awdur neu fardd Cymraeg i bendraw’r byd – oni fyddai ’na fwlch sylweddol yno? Na fyddai neb yn gweld ei golli, efallai, heblaw amdanon ni? Wedi’r cyfan, mae’r fath gyfleoedd yn sicrhau presenoldeb o Gymru ar lwyfan rhyngwladol – ac onid dyna’r union beth y dylai nawdd cyhoeddus fod yn ei gefnogi ar adegau fel hyn? Fel lleiafrif, ry’n ni’n dueddol o gael ein gwasgu’n dynnach na’r rhelyw – ac mae celfyddyd yn ddihangfa allweddol. Os allwn fod yn uchelgeisiol, a sicrhau ein presenoldeb a’n dylanwad yn y byd ar lefel gelfyddydol, yna fe allwn gryfhau ein statws rhyngwladol tu hwnt i unrhyw helynt economaidd. Ac fe fyddai’n ddiddorol i ni gael gwybod, trwy gyfrwng llwyfan fel Newsnight Cymru, pa awduron ac artistiaid sydd wrthi’n teithio, yn creu ac yn ymateb i wleidyddiaeth rhyngwladol yn eu gweithiau – a sut mae’r gweithiau hynny yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o Gymru ar fap rhyngwladol.
Eleni dwi’n ddigon ffodus i fod yn Gymrawd Rhyngwladol i Ŵyl y Gelli – gan ddilyn ôl traed Jon Gower, Tiffany Murray, Owen Sheers ac Eurig Salisbury. Wrth droedio’r un llwybrau, calondid yw darganfod fod pobl Dhaka eisoes yn gwybod am y gynghanedd, a phobl Cartagena wedi’u trwytho yn hanes Cymru a ffuglen Gymraeg a Chymreig. Eleni, fe wnes i geisio adeiladu ar y seiliau hynny trwy gynnig cipolwg i bobl Sbaen a Mecsico o’r Mabinogi, a chyflwyno’r traddodiad canu gwerin Cymraeg i bobl Norwy a Gwlad yr Iâ. Yr oedd clywed am ddiflaniadau ym Mecsico ac am fydolwg anarferol y maer Mauricio Fernández Garza yn y ffilm ddogfen hynod – ‘El Alcalde’ – yn rhywbeth a gafodd effaith ddofn arna innau hefyd, ac y mae eisoes wedi ysbrydoli gweithiau newydd.
Hir oes i’r jyncets llenyddol, felly – a’u pwysigrwydd wrth fapio Cymru a’r Gymraeg yn rhan o’r byd. A gobeithio y bydd modd i ni ffeindio’r cyfrwng a’r platfform iawn i drafod a datblygu’r pethau hynny ar lwyfan newydd sbon Newsnight Cymru.