Mae Cymru yn genedl ac mae ganddi holl nodweddion cenedl. Un o’r ychwanegiadau diweddar iawn at ein nodweddion cenedlaethol yw bod gennym ein sefydliad democrataidd ein hunain, ein senedd ein hunain.
Er hynny, mae un nodwedd sydd wedi para i fod yn gyndyn eithriadol o sefydlu ei hunan yn ein gwlad; sef llwyfan bywiog ac eang ei apêl ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru yn y cyfryngau.
Wrth gwrs, mae newyddiadurwyr unigol a’n cyfryngau print bychan yn gweithio’n ddiflino i graffu ar ein gwleidyddion ac i gyflwyno materion gwleidyddol y dydd i ddinasyddion Cymru. Mae sefyllfa Cymru yn unigryw yng ngwledydd Prydain fel cenedl lle mae’r rhan fwyaf o’i dinasyddion yn darllen papurau newydd sydd wedi’u golygu a’u hargraffu y tu allan i’r wlad, ac mae cydnabyddiaeth eang fod hyn yn anghysondeb strwythurol sydd wedi bod yn anodd ei oresgyn.
Mae hanes hir i berthynas Cymru â’r cyfryngau print wrth gwrs, sy’n dyddio yn ôl i’r dyddiau hynny pan oedd agosrwydd daearyddol at y gweisg argraffu yn pennu pa bapurau newydd oedd ar werth yn lleol; roedd hyd y rheilffordd yn ystyriaeth bwysicach na dyfnder yr ymwybyddiaeth genedlaethol.
Dyna reswm arall felly pam y dylem fanteisio ar bob cyfle posibl i ymgysylltu â dinasyddion Cymru.
A dyna pam rwy’n llwyr gefnogi ymgyrch Newsnight Cymru.
Prin fod amheuaeth bod angen cryfhau ymhellach ar ddarpariaeth materion cyfoes Cymru a’r craffu sydd ar y rheini sydd mewn pŵer yn y wlad. Wedi’r cyfan, mae cydnabyddiaeth gyffredinol fod Cymru yn dioddef o ‘ddiffyg democrataidd’ lle mae’r diffyg sylw yn y cyfryngau yn gwneud i bobl deimlo’n bell oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hon yn broblem fawr i’n democratiaeth.
Mae datblygiadau technolegol yn ei gwneud yn haws rhannu dolenni at raglenni drwy’r cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs, ac mae datblygiadau arloesol megis i-player y BBC yn ei gwneud hi’n bosibl i wylwyr fanteisio ar y ddarpariaeth ddarlledu mewn dulliau hyblyg dros ben.
Mewn dim o dro byddai cyfnod darlledu Newsnight Cymru yn dod yn un o raglenni blaenllaw yr arlwy gwleidyddol sydd ar y teledu yng Nghymru. Byddai’n rhoi statws uwch i ddemocratiaeth Cymru ac yn benodol fe fyddai’n mynd i’r afael â materion creiddiol o safbwynt dinasyddion Cymru. Rwyf hefyd o’r farn y byddai craffu cynyddol, a hynny o safon uchel, ar waith ein gwleidyddion yn gwneud iddynt hwythau fagu mwy o stêm hefyd.
Mae’r hyn y mae Ymgyrch Newsnight Cymru yn ei gynnig yn gwbl resymol. Wedi’r cyfan, mae gan ein cyfeillion yn yr Alban eu cyfnod darlledu Newsnight eu hunain. O gyfuno hyn â’u sector print cryf, fyddai neb yn dadlau bod democratiaeth yr Alban mewn sefyllfa waeth o ganlyniad i’r haenau ychwanegol o graffu sydd yno.
Wrth gwrs, gallai wneud i’r rhai hynny sydd mewn pŵer wingo o dro i dro, ond mae hynny’n rhan annatod o ddemocratiaeth ffyniannus.
Cydraddoldeb yw’r hyn y gofynnir amdano. Nid yn unig er mwyn y rhai sy’n talu am drwydded deledu (sy’n talu yr un faint am eu trwyddedau ag y mae’r Albanwyr) ond er mwyn ein cydraddoldeb cenedlaethol.