Mae’n ffyrdd ni o ddehongli’r byd wedi eu seilio ar y modd ry’n ni’n gosod ein hunain fel cenedl yng nghyd-destun cenhedloedd eraill. Serch hynny, mae ethnoganolrwydd yn cymryd yn ganiataol mai disgrifiad un genedl o’r byd sy’n gywir a’i fod yn uwchraddol i realiti gwledydd neu gymdeithasau eraill. Mae’n golygu derbyn bydolwg y dominant neu’r goruchaf mewn cymdeithas beth bynnag yw safbwyntiau eraill. Yn hanes canrifoedd o berthynas rhwng Lloegr a’r gwledydd Celtaidd – Iwerddon, Cymru a’r Alban – yr hyn a welwn yw hanes goruchafiaeth Lloegr.
Elfen sylfaenol o’r berthynas rhwng Lloegr a’r gwledydd Celtaidd yw prescription, neu ragnodi. Mae’r grŵp sy’n goruchafu yn rhagnodi beth sy’n deilwng o sylw a sut mae ei ddehongli. Yn hynny o beth, mae Newsnight yn adrodd y newyddion o safbwynt Eingl-ganolog ac os yw’n adrodd ar y gwledydd Celtaidd o gwbl, bydd yn gwneud hynny o safbwynt Lloegr. Serch hynny, mae ffactorau diwylliannol yn dylanwadu ar y pethau ry’n ni’n eu dehongli a’r modd ry’n ni’n eu dehongli nhw, ac mae’r materion sy’n bwysig i wylwyr Cymru yn aml yn cael eu hanwybyddu. Os bernir eu bod yn ddigon pwysig i’w cynnwys ar y newyddion, fe’u cyflwynir o safbwynt Lloegr.
Un ffactor o bwys yng Nghymru yw’r Gymraeg. Iaith yw’r man cychwyn sy’n siapio’r ffordd ry’n ni’n meddwl. Mae mwyafrif y byd yn ddwyieithog o leiaf, ac mae hyn yn cael ei dderbyn wrth adrodd y newyddion ledled y byd lle mae sgyrsiau newyddion o bwys yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng dwy neu fwy o ieithoedd y wlad dan sylw. Mae’r ffaith ein bod wedi ein lleoli mor agos at Loegr yn broblematig o ran adrodd newyddion o safbwynt Cymru – o’r hyn sy’n cael ei ddewis yn addas i adrodd arno fel newyddion, i’r dehongliad a’r dadansoddiad.
Mae iaith yn rhoi safbwynt arall ar y byd. Yn aml nid yw pobl uniaith Saesneg yn gallu gweld hyn. Mae hawliau defnyddwyr yr iaith oruchaf yn cael eu hystyried yn normal ac mae strwythurau anweledig yn cefnogi hyn. Dydy’r grŵp goruchaf ddim yn gweld eu hunain fel goruchafwyr – mae’r oruchafiaeth yn cael ei chymryd yn ganiataol ac mae unrhyw her i’r norm yma’n cael ei wrthsefyll. Mae hyn wedi ei adlewyrchu yn agwedd llywodraeth San Steffan sydd mor amharod i gynnig consesiynau mewn meysydd fel darlledu. Dechreuwyd darlledu yng ngwledydd Prydain ym 1920 gyda’r nod o ddarparu ‘gwasanaeth cenedlaethol’. Fodd bynnag, roedd Seisnigrwydd cynhenid y BBC ymhlyg yn y datblygiad yma, yn lledaenu canfyddiadau ac agweddau Llundeinig i bob rhan o wledydd Prydain. Dim ond ar ôl protestio hirfaith y cafwyd darpariaeth ddigonol drwy gyfrwng y Gymraeg yn y byd darlledu. Gwelwyd ailadrodd yr un sefyllfa genhedlaeth yn ddiweddarach gyda dyfodiad teledu. Dim ond ar ôl ymgyrchoedd hir ac ymdrechion diflino y cafwyd gwasanaeth digonol ar gyfer yr ugeinfed ganrif. Bellach, yn yr unfed ganrif ar hugain, rhaid galw ar i Gymru gael Newsnight ei hunan, a hynny drwy gyfrwng y ddwy iaith.