Un o’r chwe phwrpas cyhoeddus y mae Siarter Brenhinol a Chytundeb y BBC, sef sail gyfansoddiadol y BBC gerbron y Senedd, yn eu nodi yw y dylai gwylwyr a gwrandawyr y BBC allu dibynnu ar y BBC i adlewyrchu'r cymunedau niferus sydd yn y Deyrnas Gyfunol. Er gwaethaf ei newyddiaduraeth wych, prin yw’r bobl yng Nghymru fyddai’n derbyn bod Newsnight yn cyflawni’r pwrpas hwn yn nosweithiol. Yn wir, wrth ei wylio mae’n teimlo fel petai datganoli prin yn bodoli yn aml. Yn bur anaml yr eglurir bod mater yn berthnasol i Loegr yn unig ac yn fwy anaml byth y canolbwyntir ar fater sydd wedi ei ddatganoli yng Nghymru. Rhaid canmol llawer ynghylch Newsnight, ond nid ei ymdriniaeth â Chymru.
Mae’n hawdd beirniadu a thynnu sylw at yr hyn sy’n ymddangos fel camgymeriadau amlwg wrth ymdrin â materion Cymreig. Nid yw hynny’n ddigon, er hynny. Yn gynharach eleni, cyflwynais i ac Eluned Parrott, fy nghydweithiwr o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Ddatganiad Barn yn y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar y BBC i gomisiynu Newsnight Cymru ar yr un sail â Newsnight Scotland er mwyn sicrhau y bydd gwleidyddion Cymru yn y Senedd, yn San Steffan ac o fewn llywodraeth leol yn cael eu galw i gyfrif yn well.
Mae system wleidyddol Cymru yn crefu am ragor o sylw. Wrth i ragor o bwerau cael eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae rhagor o ffocws ar Gymru yn fwy angenrheidiol nag erioed o’r blaen. Mae rhagor o graffu yn iach i ddemocratiaeth; mae’n grymuso pobl yn ogystal â gwella llywodraethiant. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell craffu ar y penderfyniadau pwysig hynny sy’n effeithio arnynt yn ddyddiol. Dyna pam y mae’r ymgyrch hon mor hanfodol a dyna pam y dylai’r BBC fynd ati i gyflwyno Newsnight Cymru.